Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwasanaeth cadair olwyn
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 24 awr yr wythnos (Contract cyfnod penodol o 12 mis - Cyfnod Mamolaeth)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-ACS108-0225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Wrecsam
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 03/03/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Hyfforddwr Technegol Gradd 4
Gradd 4
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae're swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 12 mis oherwydd cyfnod mamolaeth.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Mae cyfle wedi codi i hyfforddwr technegol rhan amser Band 4 ymuno â'r Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd . Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig ac uchel eu cymhelliant i ymuno â'n tîm ar gytundeb cyfnod penodol o 12 mis.
Bydd deilydd y swydd yn darparu cefnogaeth ymarferol i'r Therapydd Galwedigaethol / Ffisiotherapydd cofrestredig i hwyluso'r broses o ddarparu cadeiriau olwyn ac offer cysylltiedig i gleientiaid a gyfeirir at y Gwasanaeth Osgo a chadair olwyn symudedd. Mae hwn yn wasanaeth ar gyfer ardal ddaearyddol eang yng ngogledd Cymru gyda system gweithio ategol yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Powys a'r sefydliadau Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg a sefydliadau preifat yn yr ardaloedd hyn. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol yn cynnwys staff clinigol, technegol a gweinyddol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Prif amcanion y swydd yw:
- Cefnogi'r Therapyddion wrth asesu, trefnu, gweithredu a gwerthuso therapi ac ymyriadau tîm amlddisgyblaeth.
- Bod yn gyfrifol am asesu anghenion offer y cleient i benderfynu a oes angen yr offer o hyd, os yw'n ddiogel i'w ddefnyddio, os oes ei angen mwyach neu a oes angen ei gyfeirio am ddarpariaeth newydd.
- I asesu sgiliau / technegau cadair olwyn cleient, cynnal ymarfer a hyfforddiant i annog annibyniaeth, gan gynnwys sesiynau hyfforddi dan do / awyr agored unigol a phrofion mewn amgylchedd amrywiol ar gyfer cleientiaid sydd â chadair olwyn â phwer.
- Cynorthwyo cleientiaid cyn, yn ystod ac yn dilyn adolygiad gan sicrhau eu diogelwch, cyfforddusrwydd, preifatrwydd ac urddas.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- NVQ lefel 3 BTEC neu brofiad cyfatebol neu berthnasol ynghyd â hyfforddiant ychwanegol a/neu brofiad mewn arbenigedd perthnasol.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad perthnasol o weithio mewn enfigen ofalgar gyda phobl â phroblemau corfforol, gwybyddol ac ymddygiadol cymhleth
Sgiliau a galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Ymrwymedig, brwdfrydig a agwedd hyblyg. Sgiliau cyfathrebu a Gwaith tîm ardderchog
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu i weithio yn hyblyg mewn amryw o sefyllfaoedd ac amgylcheddau.
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jayachandran Jaganathan
- Teitl y swydd
- Clinical Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000850055
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Tîm Gweinyddol PAMS BCU (BCUHB - Gwasanaeth Ystum a Symudedd) <[email protected]>
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector