Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Porthor Cyffredinol — Rhyddhad
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Ar hyn o bryd mae gennym gyfle yn ein Hadran Gwasanaethau Porthora i unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant i weithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac ar draws safleoedd Cymunedol.
Bydd deilydd y swydd yn ymateb i geisiadau ar gyfer symud cleifion a nwyddau mewn modd priodol ac amserol i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithlon. Bydd hyn yn cynnwys codi, trosglwyddo, gwthio a thynnu pwysau sylweddol gyda chymhorthion mecanyddol, ble mae asesiad risg wedi dynodi'r angen i ddefnyddio'r rhain, gall y rhain gynnwys tryciau paledi a sachau, wagenni llusgo a yrrir a rhai llaw / symudyddion trydanol, dringwyr grisiau ayyb.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig amodau gwaith rhagorol gan gynnwys hawl hael i wyliau â thâl, tâl uwch am weithio ar y penwythnos a chyfle i ymuno â’r Cynllun Pensiwn Blwydd-dal.
Rydym yn cynnig cytundeb cyflogaeth parhaol ar gyfer y swydd ganlynol:
1 Swydd llawn amser (37.5 awr yr wythnos) – gweithio 5 diwrnod yr wythnos ar rota i gynnwys nosweithiau, penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfraddau cyflog yw £11.62 yr awr, gyda chyfraddau uwch ar gyfer gwaith a wneir ar ddydd Sadwrn (£16.73 yr awr) a dydd Sul (£21.85 yr awr).
Mae hon yn rôl sy'n gofyn yn gorfforol. Os yw hyn i gyd yn swnio fel chi a bod gennych yr awydd a'r brwdfrydedd i wneud gwahaniaeth gydag ymdeimlad allweddol o ofal cwsmeriaid a ffocws i'w ddarparu, rydym am glywed gennych chi heddiw.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae Gwasanaethau Porthora yn darparu cefnogaeth hanfodol i bob rhan o'r ysbyty. Disgwylir i'r porthor ymateb i amrywiol heriau o fewn yr amgylchedd waith, ac efallai y bydd y llwyth gwaith yn cynyddu oherwydd dylanwadau allanol yn cynnwys yr amgylchedd, tywydd, capasiti cleifion ayyb. Bydd y porthor yn gweithio fel rhan o dîm yn cyfrannu at redeg y gwasanaeth yn esmwyth, gan ddarparu ymateb effeithlon ac effeithiol i symud cleifion, gan gynorthwyo mewn sefyllfaoedd brys, casglu samplau a meddyginiaethau ayyb a'u darparu, wrth sicrhau bod tasgau eraill megis danfon y troli bwyd, llieiniau, nwyddau a phost ac ati yn cael eu gwneud yn amserol. Er bod nifer o'r tasgau yn rhai rheolaidd yn gyffredinol, gall swyddogaeth ddyddiol y gwasanaeth fod yn anrhagweladwy o bosibl, felly mae dull hyblyg yn hanfodol, a bydd disgwyl i ddeilydd y swydd ddefnyddio ei synnwyr cyffredin ei hun.
Mae’r gallu siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn swydd debyg
Gwybodaeth o Ysbyty
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am yr Ysbyty
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Safon dda o addysg uwchradd
Meini prawf dymunol
- NVQ lefel 2 mewn gwasanaeth cwsmeriaid
Argaeledd
Meini prawf hanfodol
- Bod ar gael i weithio ar benwythnosau a gwyliau banc
Safleoedd Cymunedol
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio o fewn ardal ddaearyddol mewn modd amserol
Iechyd a Lles
Meini prawf hanfodol
- Gallu ymdopi a sefyllfaoedd gofidus
Tueddfryd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da
- Yn gallu gweithio fel rhan o dim
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Claire Finchett
- Teitl y swydd
- Assistant Hotel Services Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 847800
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector