Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyfarwyddiaeth Ansawdd
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC444-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd/Ysbyty Glan Clwyd/Ysbyty Wrexham Maelor
- Tref
- Ysbyty Gwynedd/Ysbyty Glan Clwyd/Ysbyty Wrexham Maelor
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Rheolwr Profiad Cleifion a Gofalwyr
Gradd 6
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Bydd Rheolwr Cleifion a Gofalwyr yn rheoli’r Gwasanaeth Cyngor, Cymorth a Chyswllt y Claf (PALS) o fewn tîm Profiad Cleifion a Gofalwyr. Bydd deilydd y swydd yn rheoli’r staff o ddydd i ddydd, trefnu llwythi gwaith a gofalu fod safonnau ac allbynau yn cael eu cyflawni. Byddant hefyd yn gweithio gyda gwasanaethau ar draws BIPBC ar brosiectau i wella profiad cleifion a gofalwyr ar draws Gogledd Cymru.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn:
- Rheoli’r Gwasanaeth Cyngor, Cymorth a Chyswllt y Claf (PALS)
- Sicrhau fod rôl y gofalwr di-dâl yn cael cydnabyddiaeth wrth fynychu’r Gwasanaeth Cyngor, Cymorth a Chyswllt y Claf
- Arwain y Gwasanaeth Cyngor, Cymorth a Chyswllt y Claf i gasglu adborth cleifion a Gofalwyr drwy wahanol ddulliau
- Rheoli risgau allweddol sy’n ymwneud â gweithrediadau PALS yn rhagweithiol gan sicrhau fod gweithredoedd priodol yn cael eu dilyn
- Arwain ar brosiectau ar draws y Bwrdd Iechyd gyda’r Cymunedau Iechyd Integredig a’r gwasanaethau ledled Gogledd Cymru i geisio gwella profiad cleifion a gofalwyr
- Sicrhau cydnabyddiaeth PALS ar draws y Cymunedau Iechyd Integredig a gwasanaethau allanol ar draws Gogledd Cymru
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
PS
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio gyda staff ar bob lefel ac ymgysylltu â nhw mewn amgylchedd gweithrediadol lefel uchel Profiad g
- Profiad o weithio gyda staff ar bob lefel ac ymgysylltu â nhw mewn amgylchedd gweithrediadol lefel uchel
- Profiad o ymdrin â chleifion a’r cyhoedd
- Deall y GIG
- Yn gallu parhau i fod yn ddiduedd gan ddangos empathi a dealltwriaeth tuag at bobl eraill
- Yn gallu arwain a chyfarwyddo prosiectau
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog (yn ysgrifenedig ac ar lafar)
Meini prawf dymunol
- Sgiliau hwyluso, trafod a dylanwadu
- Y gallu i siariad cymraeg yn ddymunol
Cyfathrebiad
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Rheoli Prosiect
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Katie Hender
- Teitl y swydd
- Senior Patient and Carer Experience Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 840140
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector