Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Endosgopi
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC268-0425W
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gwynedd
Tref
Bangor
Cyflog
£26,928 - £29,551 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
06/05/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Arweinydd Tîm - Endosgopi

Gradd 4

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Arweinydd Tîm brwdfrydig a hynod drefnus ymuno â'n tîm Endosgopi yn Ysbyty Gwynedd.  Bydd deiliad y swydd yn darparu ac yn cyflawni swyddogaeth weinyddol gywir a phrydlon i hwyluso darparu gwasanaeth archebu effeithlon ac effeithiol.
 
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.
 

Sylwch y bydd y swydd hon yn gysylltiedig â'n rota gweithio 7 diwrnod, felly efallai y gofynnir i chi ddod i'r gwaith yn ystod penwythnos.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deilydd y swydd yn gweithio ochr yn ochr â’r tîm trefnu apwyntiadau, staff nyrsio, Meddygon, y cyhoedd, rheolwyr a staff o ffynonellau mewnol ac allanol, gan gefnogi aelodau eraill y tîm i gyflawni targedau a gwasanaeth trefnu apwyntiadau sy’n canolbwyntio ar y claf. Bydd angen i ddeilydd y swydd ddefnyddio ei gymhelliant ei hun, gweithio mewn sefyllfaoedd cymhleth weithiau i sicrhau bod cleifion yn cael eu trefnu yn unol â thargedau cenedlaethol.

Mae lefelau uchel o sgiliau gwasanaeth cwsmer a chyfathrebu/rhyngbersonol yn hanfodol, ynghyd â’r gallu i weithio ar eich liwt eich hun i ddatrys problemau wrth iddynt godi. 

Bydd gennych brofiad mewn rôl weinyddol a phrofiad o weithio â’r cyhoedd a byddwch yn gymwys mewn TG yn y gweithle. Mae sylw at fanylder a casglu data cywir yn holl bwysig.

Yr oriau gwaith yw 37.5 awr yr wythnos. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Gallu dangos Saesneg a Mathemateg hyd at lefel TGAU neu gyfwerth
  • NVQ 4 mewn Gweinyddol/gofal cwsmeriaid neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster Arwain Tîm ILM neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad swyddfa blaenorol
  • Profiad blaenorol o reoli staff
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol yn y GIG

Doniau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o oruchwylio a rheoli staff Gallu defnyddio systemau gwybodaeth electronig.
  • Gallu defnyddio systemau gwybodaeth electronig
  • Gallu cofnodi gwybodaeth yn gywir
  • Trefniadaeth – y gallu i reoli dyddiaduron, sefydlu systemau ffeilio, gweithio i derfynau amser caeth a blaenoriaethu tasgau
  • Cyfathrebu'n glir ac yn sensitif dros y ffôn yn bersonol a thrwy lythyr.
  • Gwybodaeth am gyfrinachedd cleifion.
  • Ability to speak Welsh
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o ddefnyddio WPAS ysbyty neu system debyg

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Brwdfrydig, llawn cymhelliant a hawdd mynd ato
  • Cynnig rhywfaint o hyblygrwydd gydag oriau gwaith
  • Gallu cwrdd â heriau sefydliad sy'n newid

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Gallu gweithio ar eich menter eich hun tra'n deall yr angen i ofyn am gyngor gan bobl hŷn yn ôl yr angen

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Bethany Mellor
Teitl y swydd
Assistant Service Support Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 842038
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Colette Morgan-Jones - Site Speciality Manger

03000 850838

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg