Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Renal & Diabetes
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (Cyfnod Mamolaeth i 08/03/2026)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-NMR141-0225-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Y Rhy
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/03/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Nyrs Gofrestredig, Ward 12 YGC
Gradd 5
Trosolwg o'r swydd
Mae're swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 08/03/2023 oherwydd Cyfnod Mamolaeth.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Mae'r cyfle wedi codi i Nyrsys Cofrestredig ymuno â'r tîm ar ward 12 yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae Ward 12 yn arbenigo mewn Arennol a Diabetes.
Mae cyfleoedd i gyflawni cymwyseddau wrth berfformio Dialysis Peritoneol, a hefyd rheoli cleifion sydd angen heamodialysis cleifion mewnol.
Mae hon yn ffordd gydweithredol arloesol newydd o weithio i wella profiad cleifion. Mae arweinyddiaeth a diwylliant cryf o waith tîm i'w gweld ar ward 12, ac rydym yn annog datblygiad yr holl staff, rydym yn ymfalchïo mewn darparu gofal urddasol, cyfannol, diogel o ansawdd sy'n cael ei feithrin o greu amgylchedd gwaith amlddisgyblaethol cydweithredol. Mae’r diwylliant ar ward 12 yn darparu amgylchedd gwaith cefnogol, sy’n ein grymuso i weithredu a chynnal newidiadau i wella profiad y claf a lleihau niwed.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae deilydd y swydd yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio wedi'i seilio ar dystiolaeth, gan gydweithio ac yn cydweithredu â phobl eraill er mwyn diwallu anghenion cleifion â'u teuluoedd. Cynorthwyo wrth reoli a threfnu eu hardal glinigol a chymryd rhan mewn addysgu, datblygu a goruchwylio aelodau eraill o staff.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodloni'r holl feini prawf dymunol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodlonir holl feini prawf dymunol yn unol a r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Yn bodlonir holl feini prawf hanfodol yn unol ar disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Meini prawf dymunol
- Yn bodlonir holl feini prawf dymunol yn unol a r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nia Willams
- Teitl y swydd
- Ward Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 844012
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Metron Jessica Roper
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector