Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Trawma ac Orthopedeg
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol: Dydd Llun - Dydd Gwener 8.30AM-4.30PM
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (8:30AM - 4.30PM)
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AC238-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £23,970 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Derbynnydd/Gweinyddwr Cleifion Allanol Trawma ac Orthopaedeg
Gradd 2
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Darparu swyddogaeth weinyddol gywir a phrydlon i hwyluso gwasanaeth trefnu apwyntiadau sy’n effeithlon ac yn effeithiol. Cefnogi'r gwasanaethau Trawma ac Orthopedig drwy drefnu apwyntiadau a gweithio ar y dderbynfa, gan fod yn gwrtais, proffesiynol a sensitif bob amser. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd flaenoriaethu, rheoli ei amser a bod yn hyblyg.
Mae'r gallu I siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon - leiafswm o lefel 3.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deilydd y swydd yn rhan o swyddogaeth weinyddol gydlynol ac integredig. Oherwydd natur y dyletswyddau, bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd gadw cyfrinachedd llwyr. Bydd gofyn am ymdrin â chleifion, gofalwyr, perthnasau, staff meddygol a defnyddwyr gwasanaeth eraill yn gwrtais a chan ddefnyddio doethineb ar lafar ac yn ysgrifenedig, bob amser.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad a chyfeiriad i’r gwasanaeth, gan gynnwys derbyn a chyfarch ymwelwyr mewn modd cwrtais a phroffesiynol, cyfeirio ymwelwyr yn ôl yr angen a delio ag amrywiaeth o ymholiadau a all fod o natur sensitif ac annifyr ar brydiau.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg gyffredinol dda -
Meini prawf dymunol
- NVQ Lefel 2 mewn Gweinyddu neu Wasanaethau Cwsmeriaid
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn swyddfa brysur
Addasrwydd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Gallu siarad Cymraeg
- Gallu blaenoriaethu llwyth gwaith
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Sgiliau trefnu ardderchog
- Gallu gweithio'n effeithlon o dan bwysau a bodloni terfynau amser.
- Gwybodaeth dda o gymwysiadau TG a Windows
- System gweinyddu cleifion
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am systemau Gweinyddu Cleifion/ ORACLE
Gwerthoedd & Arall
Meini prawf hanfodol
- Agos-atoch a phroffesiynol wrth ddelio â phobl ac yn gallu delio â sefyllfaoedd anodd/emosiynol
- Agwedd hyblyg at ddyletswyddau a chyfrifoldebau
- Yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel aelod o dîm
- Yn gyfeillgar ac effeithlon ar y ffôn
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alanah Egan
- Teitl y swydd
- Assistant Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 846816
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Newyddion
Rheolwr Gwasanaeth Cynorthwyol
[email protected]
03000 846818
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector