Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radiotherapy
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 120-AHP004-0225
- Cyflogwr
- Canolfan Ganser Felindre
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gwasanaeth Canser Felindre (Uned Radiotherapi Lloeren yn Ysbyty Nevill Hall)
- Tref
- y Fenni
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 24/02/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Uwch Radiograffydd Adolygu
Gradd 7
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae CGF yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae’r ganolfan yn destun rhaglen drawsnewid pum mlynedd ar hyn o bryd, a fydd yn galluogi gwasanaethau canser i fodloni anghenion ein cleifion yn y dyfodol ar draws De Ddwyrain Cymru. Fel rhan o’r rhaglen, bydd CGF yn symud i ysbyty canser pwrpasol newydd a bydd yn darparu cyfleoedd hefyd, i gleifion dderbyn triniaethau yn nes at eu cartrefi. Bydd y newidiadau o ran seilwaith yn cynnig cyfleoedd i'n gweithwyr weithio ar draws nifer o safleoedd mewn ffyrdd newydd a gwahanol, yn creu cyfleoedd datblygu, ac yn cynyddu arferion gweithio hyblyg.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddiannau a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o'i thrafod gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i Uwch Radiograffydd Adolygu ymuno â'n tîm mewn adran radiotherapi flaengar yng Gwasanaeth Canser Felindre (Uned Radiotherapi Lloeren yn Ysbyty Nevill Hall).
Prif ddyletswyddau'r swydd
Trefnu ac arwain ar glinigau adolygu dan arweiniad radiograffwyr, gan gynnwys asesu a rheoli sgil-effeithiau triniaethau, a chynghori cleifion a gofalwyr ar sut i reoli'r sgîl-effeithiau hyn. Bydd hyn yn cynnwys rhagnodi meddyginiaethau lle bo'n briodol gan ddefnyddio'r canllawiau rhagnodi presennol.
Arwain ar wybodaeth a chymorth i gleifion a gofalwyr radiotherapi, gan ddarparu ymagwedd gyfannol at anghenion emosiynol, ymarferol, cymdeithasol a gwybodaeth trwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau cyfathrebu.
Bod yn rhan o’r tîm amlddisgyblaethol sy’n ymwneud â gofal cyflawn cleifion sy’n cael triniaeth radiotherapi a chemotherapi a thriniaethau hynod arbenigol e.e. SRS a SBRT
Mynychu cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol a theithio i ysbytai eraill fel y bo'n briodol.
Cynorthwyo i drefnu a chynllunio'r llwyth gwaith yn y clinig adolygu a'r gwasanaeth gwybodaeth a chymorth.
Cymryd cyfrifoldeb am hyfforddi a goruchwylio radiograffwyr adolygu iau, radiograffwyr ar gylchdro, staff cymorth a myfyrwyr.
Gweithio gyda staff uwch i ddarparu gwasanaeth trin diogel, cywir, effeithlon a gofalgar.
Gweithredu fel adnodd o fewn yr Ymddiriedolaeth gan ddarparu gwybodaeth arbenigol i gefnogi'r tîm amlddisgyblaethol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu gliciwch "Gwnewch gais nawr" i'w weld yn Trac.
Manyleb y person
Gwiriad
Meini prawf hanfodol
- B.Sc. (Anrh) mewn Radiograffeg Therapiwtig neu Ddiploma Coleg y Radiograffyddion DCR (T)
- Cymhwyster adolygu cleifionol neu'n barod i weithio tuag at y cymhwyster radiotherapi ar driniaeth neu weithio tuag ato
- Rhagnodwr Atodol/Annibynnol neu'n barod i weithio tuag at y cymhwyster
- Sgiliau cyfathrebu uwch
Meini prawf dymunol
- Lefel Meistr
- Cymhwyster arweinyddiaeth
- Sgiliau cwnsela
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio gydag ystod eang o dechnegau radiotherapi e.e. IMRT, SABR
- Profiad o adolygu cleifion radiotherapi.
- Yn gallu asesu cleifion radiotherapi mewn ffordd gyfannol
- Profiad o weithio gyda chyfarwyddiadau Penodol i Gleifion neu gyfwerth
- Profiad o ddefnyddio offeryn i asesu anghenion cyfannol e.e. thermomedr trallod
- Gwybodaeth drylwyr a manwl o egwyddorion a chysyniadau sy'n sail i ystod eang o dechnegau radiotherapi
- Gallu ymarferol cadarn
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion oncoleg cyfredol
- Gwybodaeth am sgil-effeithiau radiotherapi
- Gwybodaeth am gyffuriau i drin sgil-effeithiau radiotherapi
- Gwybodaeth am Ymchwil a Datblygu ac archwilio
- Gwybodaeth am COSHH a Rheoliadau Iechyd a Diogelwch
- Gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â radiograffwyr yn rhagnodi
Meini prawf dymunol
- Profiad o archwilio
- Profiad o ymchwil a datblygu
Tueddfryd a galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau gwneud penderfyniadau rhagorol
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Sgiliau trefnu
- Sgiliau rhyngbersonol e.e. pendantrwydd, sgiliau datrys problemau
- Dangos gofal rhagorol at gleifion
- Sgiliau arweinyddiaeth
- Sgiliau TG
- Sgiliau addysgu
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg i Lefel 1
- Sgiliau goruchwylio – radiograffwyr a myfyrwyr
- Sgiliau mentora
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kate Evans
- Teitl y swydd
- Radiotherapy Satellite Lead Radiographer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02920 615888
Rhestr swyddi gyda Canolfan Ganser Felindre yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector