Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Theatr
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Amser Llawn – 37.5 awr y wythnos)
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AHP077-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog
- Tref
- Aberhonddu
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Arweinydd Tîm Theatr
Gradd 6
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Arweinydd Tîm Theatr brwdfrydig sydd llawn hunan-gymhelliant i ymuno â’r Uned Llawdriniaeth Ddydd yn BIAP. Mae gennym ddwy theatr llawdriniaeth, un yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog ac un yn Ysbyty Coffa Rhyfel Llandrindod.
Rydym yn chwilio am arweinydd deinameg ac ysbrydoledig i weithio gyda’n tîm cyfeillgar. Rhaid bod gennych wybodaeth ddofn o theatr gyda sgiliau arweinyddiaeth gref. Mae angen safonau uchel a sgiliau cyfathrebu rhagorol i weithio o fewn yr adran, er mwyn sicrhau perthnasoedd gwaith effeithiol fel y gallwn ddarparu gofal cleifion o safon uchel i gleifion Powys yn lleol.
Eich lleoliad bydd Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog ond bydd disgwyl i chi weithio’n hyblyg ledled y maes gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain a chymryd rhan uniongyrchol mewn gweithdrefnau clinigol a gweithredol gyda chleifion, gofalwyr a pherthnasau.
Arwain tîm amlddisgyblaethol yn absenoldeb Rheolwr y Theatr gan ddelio â materion cymhleth ac yn uwchgyfeirio at y bobl briodol.
Gweithredu fel arbenigwr ar gyfer amgylchedd y Theatr.
Cefnogi wrth oruchwylio staff clinigol yn yr uned a darparu cymorth.
Cymryd rhan mewn archwiliadau clinigol o fewn yr uned
Dwyn cyfrifoldeb am ddatblygu rotas a dyrannu staff.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Saesneg a Chymraeg wneud cais
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i Swydd Ddisgrifiad llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu dilynwch y ddolen "Gwneud cais nawr" ar Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- 1st level Registered Nurse / Operating Department Practitioner (ODP)
- Able to articulate and demonstrate activity in meeting requirements of clinical governance
- Demonstrate and put into practice professional achievements
- ODP require HCPC registration
Meini prawf dymunol
- Evidence of post basic academic studies at Diploma or degree level
- Possess a post-basic qualification and an ongoing supervision in the perioperative setting
Experience
Meini prawf hanfodol
- Significant demonstrable experience
- Up to date portfolio and evidence of professional development
- Proven ability to lead a team with excellent organisational and communication skills
Meini prawf dymunol
- Articulate and demonstrate effectiveness with other members of the team
- Undertaken a management or leadership course
Values
Meini prawf hanfodol
- Caring attitude
- Demonstrate PTHB Values
Other
Meini prawf hanfodol
- Flexibility in working hours with the ability to cover shifts at both sites
- Strong personal drive and ambition to succeed
- Open and honest
Meini prawf dymunol
- Mentorship qualification
Aptitude & Abilities
Meini prawf hanfodol
- Demonstration of awareness of national developments and standards
- Team Worker
- Motivated
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
- Knowledge of specialist equipment
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Philip Hobbs
- Teitl y swydd
- Theatre Co-ordinator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874 615703
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Or contact 01597 828806
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector